
Rydym yn defnyddio’ch rhoddion i helpu sicrhau profiad gwell o dderbyn gwasanaeth iechyd Powys. Mae ein staff a’n cleifion yn dewis ein prosiectau, sy’n golygu ein bod yn cefnogi’r hyn sydd ei angen fwyaf, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn, gan y bobl sy’n gwybod orau.
O wella wardiau a gerddi, gwella cysur cleifion a staff, darparu offer newydd neu gyflwyno prosiectau celf therapiwtig, rydym yn cefnogi’r gwahaniaethau bach a all olygu cymaint i’n staff, ein cleifion a’n cymunedau.

Ddydd Sul 26ain Gorffennaf 2026 mae Elusen Iechyd Powys yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed , gyda digwyddiadau a dathliadau arbennig.
Eleni mae Elusen Iechyd Powys yn cyrraedd carreg filltir wirioneddol arbennig, 30 mlynedd o gefnogi a gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Powys.
Dros y 10 wythnos diwethaf, mae Tîm Elusen Iechyd Powys wedi cael y pleser o ymweld â phob safle ledled Powys fel rhan o'n dathliadau pen-blwydd yn 30 oed.
Mae ystafell synhwyraidd newydd wedi agor yng nghanolfan blant Ynys Y Plant yn y Drenewydd er cof am Sioned Harris a fu farw'r llynedd.
Rydym wrth ein bodd yn estyn llongyfarchiadau anferthol i Cheryl, a gwblhaodd Marathon Llundain mewn arddangosfa anhygoel o benderfyniad, ymrwymiad a haelioni.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â Thîm Elusen Iechyd Powys.